Janet Finch-Saunders MS, Shadow Minister for Climate Change, and long term supporter of nuclear energy projects in Wylfa and Trawsfynydd has unearthed that the Welsh Labour and Plaid Cymru cooperation Welsh Government have made a £1.5m cut to its major nuclear project in North Wales: Cwmni Egino.
Cwmni Egino is the project development company for the Trawsfynydd site. They are putting together detailed proposals for the deployment of Small Modular Reactor technology at Trawsfynydd, with the aim of getting approval to build by the latter part of the decade. As well as create growth locally, regionally and nationally, this will generate clean, reliable electricity to help meet increasing energy demands, reduce dependency on fossil fuels, and contribute towards decarbonisation in the fight against climate change.
Responding to questions from Janet, Jeremy Miles MS, Cabinet Secretary for Economy, Energy and Welsh Language, Welsh Government stated:
“A budget of £2m was approved for Cwmni Egino for 2023-24, of which £1.8m was drawn down by the end of March. The approved budget for 2024-25 is £0.5m.”
Commenting on the cut in support for nuclear energy, Janet said:
“Whilst the UK Conservative Government is ramping up investment for nuclear, overseeing the biggest expansion in 70 years, the Welsh Labour and Plaid Cymru cooperation Government is providing a massive cut.
“Cwmni Egino are ideally placed to develop the Trawsfynydd site, and see it become host to over 400 high quality jobs locally.
“To be clear, Trawsfynydd and Wylfa are being considered by the UK Government for future nuclear projects. It would be wrong to think otherwise. As such, it is completely illogical for the Welsh Government to have taken a decision to cut funding for Cwmni Egino, and potentially undermine the positive efforts made to see much needed new nuclear projects in North West Wales”.
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o Senedd Cymru dros Aberconwy, sydd wedi cefnogi prosiectau ynni niwclear Wylfa a Thrawsfynydd ers amser maith, wedi clywed bod Llywodraeth Lafur Cymru’n rhoi £1.5m yn llai o arian i’w brosiect niwclear mawr yn y Gogledd: Cwmni Egino.
Cwmni Egino yw’r cwmni datblygu prosiect ar gyfer safle Trawsfynydd. Mae’n llunio cynigion manwl ar gyfer defnyddio technoleg Adweithydd Modwlar Bach yn Nhrawsfynydd, gyda’r nod o gael cymeradwyaeth i adeiladu erbyn rhan ola’r degawd. Yn ogystal â chreu twf yn lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, bydd hyn yn cynhyrchu trydan glân, dibynadwy i helpu i fodloni’r galw cynyddol am ynni, lleihau dibyniaeth ar danwydd ffosil, a chyfrannu at ddatgarboneiddio yn y frwydr yn erbyn newid hinsawdd.
Wrth ymateb i gwestiynau gan Janet, dywedodd Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi, Ynni a’r Gymraeg:
“Cymeradwywyd cyllideb o £2m i Gwmni Egino ar gyfer 2023-24, a chafodd £1.8m o hwnnw ei dynnu i lawr erbyn diwedd Mawrth. Y gyllideb sydd wedi’i chymeradwyo ar gyfer 2024-25 yw £0.5m.”
Wrth wneud sylwadau am y toriad mewn cefnogaeth i ynni niwclear, meddai Janet:
“Tra bod Llywodraeth Geidwadol y DU yn cynyddu’r buddsoddiad mewn ynni niwclear, gan oruchwylio’r ehangu mwyaf mewn 70 mlynedd, mae Llywodraeth gydweithredol Llafur Cymru a Phlaid Cymru’n caniatáu toriad anferth.
“Mae Cwmni Egino mewn sefyllfa ddelfrydol i ddatblygu safle Trawsfynydd, a’i weld yn dod i gynnig dros 400 o swyddi o safon uchel, a fyddai o fudd sylweddol i drigolion y Gogledd-orllewin, yn cynnwys Aberconwy.
“I fod yn glir, mae Llywodraeth y DU yn ystyried Trawsfynydd a’r Wylfa ar gyfer prosiectau niwclear yn y dyfodol. Byddai’n anghywir meddwl fel arall. Felly, mae’r ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu torri’r cyllid ar gyfer Cwmni Egino yn gwbl afresymegol, ac fe allai danseilio’r ymdrechion cadarnhaol sy’n cael eu gwneud i weld prosiectau niwclear mawr eu hangen yn dod i Ogledd-orllewin Cymru”.
DIWEDD