Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is pleased to have received replies from the groups involved in the management of the infamous Llandudno Goats.
Having written to the groups involved in the Goat Management Plan after the tragic incident on a Sunday evening in April where a number of goats died following a hit and run on the A470, there now appears to be some affirmative action to further managing the goats.
The RSPCA have revealed that following a meeting on the 13th of March, a routine round-up of the old Billies will occur later this year. This will allow the group to assess the health and welfare of the goats and provide the much needed contraceptives where necessary.
Adding further to this National Resources Wales explained that the nationwide Covid lockdown in 2019 and the difficulty encountered in capturing one part of the herd in 2021 has meant a full and comprehensive round-up of the animals hasn't been feasible for a number of years, exceeding the prescribed three-year interval outlined in the Goat Management Plan.
Indeed, it is vital that we undertake a full round-up and audit of the goats as the animals have become increasingly brazen and dangerous. As National Resources Wales points out, the goats involved in the recent collision were part of a breakaway herd of male goats that established themselves in woodland near Wormhout Way during lockdown.
Commenting on the news Janet said:
“I am extremely grateful to the RSPCA, National Resource Wales, the National Trust, North Wales Police and Mostyn Estates for replying on this very pressing issue.
“As the Mostyn Estate points out, the goats are an intrinsic part of the Llandudno DNA. However, we must continue to work towards an effective, permanent solution that nurtures and preserves the harmony of goat and community.
“It is very kind of the RSPCA to suggest that I am invited along to future meetings relating to the Goat Management Plan and I will gladly take them up on that when I receive it.
“There is definitely some positive news here. The animals will be rounded-up this year with the aim of administering the much needed contraception to keep the numbers within the agreed limits of between 100 and 160. Although I suspect following a full round-up this number may be higher.
“In the meantime I thank those involved in the continued drama of the goats and look forward to working with everyone to ensure that incidents like the RTC last month do not happen again.”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn falch o fod wedi derbyn atebion gan y grwpiau sy'n ymwneud â rheoli Geifr enwog Llandudno.
Ar ôl ysgrifennu at y grwpiau sy'n rhan o'r Cynllun Rheoli Geifr ar ôl y digwyddiad trasig ar nos Sul ym mis Ebrill lle bu farw nifer o eifr yn dilyn achos o daro a dianc ar yr A470, mae'n ymddangos bellach bod rhywfaint o gamau cadarnhaol i gael eu cymryd i reoli'r geifr ymhellach.
Mae'r RSPCA wedi datgelu, yn dilyn cyfarfod ar 13 Mawrth, y bydd y geifr yn cael eu hel yn ddiweddarach eleni. Bydd hyn yn caniatáu i'r grŵp asesu iechyd a lles y geifr a darparu'r dulliau atal cenhedlu mawr eu hangen lle bo angen.
Eglurodd Cyfoeth Naturiol Cymru fod y cyfnod clo cenedlaethol yn sgil Covid yn 2019 a'r anhawster a gafwyd wrth hel rhan o'r gyr yn 2021 wedi golygu nad oes hel llawn a chynhwysfawr o'r anifeiliaid wedi bod yn ymarferol ers blynyddoedd lawer, a bod y cyfnod wedi bod yn llawer hwy na’r cyfnod rhagnodedig o dair blynedd a amlinellir yn y Cynllun Rheoli Geifr.
Yn wir, mae'n hanfodol ein bod yn eu hel yn llawn ac yn archwilio’r geifr gan fod yr anifeiliaid wedi troi’n fwy mentrus a pheryglus. Fel y noda Cyfoeth Naturiol Cymru, roedd y geifr a fu'n rhan o'r gwrthdrawiad diweddar yn rhan o braidd o eifr gwrywaidd a oedd wedi sefydlu mewn coetir ger Wormhout Way yn ystod y cyfnod clo.
Wrth sôn am y newyddion dywedodd Janet:
"Rwy'n hynod ddiolchgar i'r RSPCA, Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Heddlu Gogledd Cymru ac Ystadau Mostyn, am ymateb i'r mater pwysig iawn hwn.
"Fel y noda Ystad Mostyn, mae'r geifr yn rhan gynhenid o hanes Llandudno. Fodd bynnag, rhaid inni barhau i weithio tuag at ddatrysiad effeithiol, parhaol sy'n meithrin ac yn diogelu’r geifr a’r gymuned.
"Diolch i’r RSPCA am awgrymu fy mod yn cael fy ngwahodd i gyfarfodydd yn ymwneud â'r Cynllun Rheoli Geifr yn y dyfodol a byddaf yn falch o dderbyn y cynnig.
"Mae hyn yn newyddion positif, yn bendant. Bydd yr anifeiliaid yn cael eu hel eleni gyda'r nod o weinyddu'r dull atal cenhedlu mawr ei angen i gadw'r niferoedd o fewn y terfynau y cytunwyd arnyn nhw sef rhwng 100 a 160. Er dwi’n amau y gallai’r niferoedd fod tipyn yn uwch, unwaith y byddan nhw i gyd wedi’u hel.
"Yn y cyfamser, diolch i'r rhai a fu'n rhan o ddrama barhaus y geifr ac edrychaf ymlaen at weithio gyda phawb i sicrhau nad yw digwyddiadau fel y ddamwain ffordd y mis diwethaf yn digwydd eto."
DIWEDD