Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, has spoken of her delight at the efforts made by Mr Danny White-Meir, Enochs Fish and Chips, Llandudno Junction, to produce food with the community and environment at heart.
Enochs sponsor two local football teams, and support charities like the Fisherman’s Mission and the RNLI.
The award winning business also sources potatoes from long standing local merchants Gwyn Morris and Son, sustainable packaging, and have decided against using palm oil.
Commenting after the visit, Janet said:
“Sustainability is at the heart of everything Enochs do, and not just when it comes to sourcing food responsibly.
“Whether it’s when they are recycling used oil or using biodegradable packaging, they always work with the environment in mind.
“When considering that the nutritious meals produced at Enochs are made using only a few ingredients, many of which are sourced locally, it is clear that we can all have confidence that their fish and chips, from potato to packaging, has great green credentials.”
ENDS
Photo: Janet and Danny at Enochs
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wedi mynegi ei balchder am yr ymdrechion a wneir gan Mr Danny White-Meir, Enochs Fish and Chips, Cyffordd Llandudno, i gynhyrchu bwyd gyda'r gymuned a'r amgylchedd yn ganolog i’r gwaith.
Mae Enochs yn noddi dau dîm pêl-droed lleol, ac yn cefnogi elusennau fel Fisherman’s Mission a'r RNLI.
Mae'r busnes arobryn hefyd yn prynu tatws gan y masnachwyr lleol hirsefydlog Gwyn Morris a'i Fab, yn defnyddio deunydd pecynnu cynaliadwy, ac wedi penderfynu peidio â defnyddio olew palmwydd.
Wrth sôn am yr ymweliad, dywedodd Janet:
"Mae cynaliadwyedd wrth wraidd popeth y mae Enochs yn ei wneud, ac nid dim ond pan ddaw at gael gafael ar fwyd yn gyfrifol.
"P'un a ydyn nhw’n ailgylchu olew a ddefnyddiwyd neu'n defnyddio deunydd pecynnu bioddiraddadwy, maen nhw bob amser yn gweithio gan ystyried yr amgylchedd.
"Wrth ystyried bod y prydau maethlon a gynhyrchir yn Enochs yn cael eu gwneud gan ddefnyddio ychydig gynhwysion yn unig, llawer ohonyn nhw’n dod o ffynonellau lleol, mae'n amlwg y gallwn ni i gyd fod yn hyderus bod gan eu pysgod a'u sglodion, o’r tatws i’r deunydd pecynnu, rinweddau gwyrdd gwych."
DIWEDD
Llun: Janet a Danny yn Enochs