Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is saddened to learn that the number of children off school has more than doubled in the past academic year, compared to pre-pandemic levels.
Following a report from the Welsh Government it has been revealed that on average, 16.3% of secondary school pupils were absent during 2021-22, up a staggering 10% from 2018-19. Some school leaders have said pupils have "simply got out of the habit of regular attendance and never fully re-engaged".
Even primary schools are affected by this growing habit with 11% of primary pupils absent, compared to 5.4% pre-Covid. However, amongst pupils from poorer backgrounds who rely on free school meals the absence rate averaged nearly 18%, compared to 11.8% of pupils not entitled to free school meals.
Additionally, about 30% of all absences were unauthorised - which includes missing without a reason or being taken on holiday without agreement.
Commenting on the news Janet said:
“It is absolutely unacceptable that we have children in Wales missing school, let alone nearly 1 in 6 pupils being absent.
“Attending school is one of the most important part of our lives, it shapes our world view, educates us in order to take part in society and allows us to discover our passions and skills. To be absent from that has a catastrophic effect a child’s development.
“We have just come out of a once in a lifetime pandemic which has affected us in so many ways. Children spent vast amounts of time at home, out of school, so it is absolutely crucial that we get them re-engaged.
“I understand that it has been difficult for many but allowing children to stay at home is not going to improve their mental health. In fact, I do believe that it will exacerbate matters and give rise to a wider mental health crisis that encompasses unforeseen problems for our children in the future.
“We must now address the root cause of these absences. Why are children feeling so uncomfortable with the idea of going to school? Is this not a crisis right under our noses?
“25 years of Welsh Labour in charge of our education system and it is on its knees. Welsh PISA rankings have fallen the most in the UK. Teachers do not have the time nor resources to give our children the attention and nurturing they so clearly need, and more importantly deserve.
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn drist i glywed bod nifer y plant sy'n colli'r ysgol wedi mwy na dyblu yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf, o'i gymharu â'r lefelau cyn y pandemig.
Yn dilyn adroddiad gan Lywodraeth Cymru, datgelwyd bod 16.3% o ddisgyblion ysgolion uwchradd ar gyfartaledd yn absennol yn ystod 2021-22, cynnydd syfrdanol o 10% ers 2018-19. Mae rhai arweinwyr ysgolion wedi dweud bod disgyblion wedi mynd allan o'r arfer o fynd i’r ysgol yn rheolaidd ac erioed wedi dod yn ôl i’r arfer yn llawn.
Mae'r arfer cynyddol hwn yn effeithio ar ysgolion cynradd hyd yn oed, gyda 11% o ddisgyblion cynradd yn absennol, o'i gymharu â 5.4% cyn Covid. Fodd bynnag, roedd y gyfradd absenoldeb ymhlith disgyblion o gefndiroedd tlotach sy'n dibynnu ar brydau ysgol am ddim bron yn 18%, o'i gymharu â 11.8% o ddisgyblion nad ydyn nhw’n gymwys i gael prydau ysgol am ddim.
Hefyd, roedd tua 30% o'r holl absenoldebau yn rhai heb awdurdod - sy'n cynnwys colli’r ysgol heb reswm neu fynd ar wyliau heb gydsyniad yr ysgol.
Wrth sôn am y newyddion dywedodd Janet:
“Mae'n gwbl annerbyniol bod gennym blant yng Nghymru yn colli'r ysgol, heb sôn am bron i 1 o bob 6 disgybl yn absennol.
“Mynychu'r ysgol yw un o gyfnodau pwysicaf ein bywydau, mae'n siapio sut rydyn ni’n gweld y byd, yn ein haddysgu i gymryd rhan mewn cymdeithas ac yn ein galluogi i ddarganfod ein sgiliau a diddordebau. Mae bod yn absennol o hynny yn cael effaith drychinebus ar ddatblygiad plentyn.
“Rydym ni newydd ddod allan o bandemig unwaith mewn oes sydd wedi effeithio arnom mewn cymaint o ffyrdd. Treuliodd ein plant lawer iawn o amser gartref, y tu allan i'r ysgol, felly mae'n gwbl hanfodol ein bod yn ennyn eu diddordeb unwaith eto.
“Rwy'n deall ei fod wedi bod yn anodd i lawer ond tydi caniatáu i blant aros adref ddim yn mynd i wella eu hiechyd meddwl. Yn wir, rydw i’n credu y bydd yn gwaethygu pethau ac yn arwain at argyfwng iechyd meddwl ehangach sy'n cwmpasu problemau annisgwyl i'n plant yn y dyfodol.
“Rhaid mynd i'r afael ar fyrder ag achos sylfaenol yr absenoldebau hyn. Pam mae plant yn teimlo'n anghyfforddus gyda'r syniad o fynd i'r ysgol? Onid yw hyn yn argyfwng o dan ein trwynau?
“Gyda Llafur Cymru wedi bod yn gyfrifol am ein system addysg ers 25 mlynedd, mae ar ei gliniau. Sgoriau PISA Cymru sydd wedi gostwng fwyaf yn y DU. Does gan athrawon mo'r amser na'r adnoddau i roi'r sylw a’r gofal sydd ei angen ar ein plant - rhywbeth maen nhw'n amlwg ei angen ac, yn fwy na dim, yn ei haeddu.”
DIWEDD