With the warmer weather approaching and Wales expecting to reach 20 degrees in the coming weeks, Janet Finch-Saunders MS/AS is in support of the RSPCA's reminder that "dogs die in hot cars". Our canine friends are important family members and will surely also be enjoying the warmer weather, whether going for a swim or going for walks. However, in a recent poll, 58% of people wouldn't leave their dog inside a car on a warm day, therefore, more than 40% of people may still potentially put their pets at risk.
In response, Janet said:
"Although it may be 20 degrees outside, inside a vehicle it can be much higher. Many people leave their dogs in cars and for those, I urge you to be conscious about the time of day and how long you will be away from your vehicle.
"If you see a dog in critical condition, the RSPCA's advice is to phone the police in emergency situations but otherwise, monitor the condition of the dog, check parking tickets to see how long the owners have been away and inform the staff nearby if at all possible.
"North Wales is a haven for dog owners and by being responsible, we can all enjoy the beautiful outdoors."
Ends
Gyda'r tywydd cynhesach ar ddod a disgwyl i Gymru gyrraedd 20 gradd yn ystod yr wythnosau nesaf, mae Janet Finch-Saunders AS yn cefnogi neges atgoffa'r RSPCA fod "cŵn yn marw mewn ceir poeth". Mae ein ffrindiau blewog yn aelodau pwysig o'r teulu ac yn sicr o fod yn mwynhau'r tywydd cynhesach, boed drwy fynd i nofio neu fynd am dro. Fodd bynnag, mewn arolwg barn diweddar, dywedodd 58% o bobl na fyddent yn gadael eu ci y tu mewn i gar ar ddiwrnod cynnes, sy’n golygu efallai y bydd mwy na 40% o bobl yn dal i roi eu hanifeiliaid anwes mewn perygl.
Mewn ymateb, dywedodd Janet:
"Er y gallai fod 20 gradd y tu allan, y tu mewn i gerbyd mae'n gallu bod yn llawer uwch. Mae llawer o bobl yn gadael eu cŵn mewn ceir, ac rwy'n eich annog i fod yn ymwybodol o'r adeg o'r dydd a pha mor hir y byddwch i ffwrdd o'ch cerbyd.
"Os ydych chi'n gweld ci mewn cyflwr difrifol, cyngor yr RSPCA yw ffonio'r heddlu mewn argyfwng ond fel arall, monitro cyflwr y ci, edrychwch ar docynnau parcio i weld pa mor hir mae'r perchnogion wedi bod i ffwrdd a rhoi gwybod i'r staff gerllaw os yn bosib.
"Mae’r Gogledd yn hafan i berchnogion cŵn a thrwy fod yn gyfrifol, gallwn ni i gyd fwynhau'r awyr agored hyfryd."