Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is thrilled to have been recognised by the RSPCA.
During the charity's 200th anniversary event at the Senedd on June 12, Janet Finch-Saunders MS, alongside Carolyn Thomas MS, Luke Fletcher MS, Jane Dodds MS, and Vikki Howells MS were nominated for the newly established Massingham Advocacy Award.
This award, named after Gertrude Speedwell Massingham, the RSPCA’s first public affairs staff member and a trailblazer for women in public life, was created to honour those who advocate for animals.
Janet has played a huge role in holding the Welsh Government to account on animal welfare while also advocating for animals of all sizes.
Commenting on this, Janet said:
“I am thrilled to have been nominated for this award, and I would like to thank the RSPCA for all the hard work they do.
“200 years of the RSPCA is a very impressive achievement, going from strength to strength and building a momentum that has transformed our relationship with animals.
“I absolutely love animals and have always had them in my life. It is a huge honour to be able to advocate as a Member of the Senedd for all those involved in the protection of animals, from local authorities and charities to our vets and farmers.
“It is very important to me that we continue to hold the Welsh Government to account on their record of animal welfare and I am proud to be able to do this on a regular basis.
“I wish everyone the best of luck for August when they will be announcing the winners!”
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, ar ben ei digon o fod wedi cael ei chydnabod gan yr RSPCA.
Yn ystod digwyddiad i nodi 200 mlwyddiant yr elusen yn y Senedd ar 12 Mehefin, enwebwyd Janet Finch-Saunders AS, ochr yn ochr â Carolyn Thomas AS, Luke Fletcher AS, Jane Dodds AS, a Vikki Howells AS ar gyfer Gwobr Eiriolaeth Massingham sydd newydd ei sefydlu.
Crëwyd y wobr hon, a enwyd ar ôl Gertrude Speedwell Massingham, aelod staff materion cyhoeddus cyntaf yr RSPCA ac arloeswraig ar gyfer menywod mewn bywyd cyhoeddus, i anrhydeddu'r rhai sy'n gweithio’n ddiflino dros anifeiliaid.
Mae Janet wedi chwarae rhan fawr yn y gwaith o ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am les anifeiliaid tra hefyd yn eirioli dros anifeiliaid o bob maint.
Wrth sôn am hyn, dywedodd Janet:
"Rydw i wrth fy modd fy mod wedi cael fy enwebu ar gyfer y wobr hon, a hoffwn ddiolch i'r RSPCA am yr holl waith caled maen nhw'n ei wneud.
"Mae 200 mlynedd o'r RSPCA yn gyflawniad gwych iawn ac maen nhw’n mynd o nerth i nerth ac yn adeiladu momentwm sydd wedi trawsnewid ein perthynas ag anifeiliaid.
"Rydw i wrth fy modd gydag anifeiliaid ac wedi eu cael yn fy mywyd erioed. Mae'n anrhydedd enfawr gallu eirioli fel Aelod o'r Senedd dros bawb sy'n ymwneud ag amddiffyn anifeiliaid, o awdurdodau lleol ac elusennau i'n milfeddygon a'n ffermwyr.
"Mae'n bwysig iawn i mi ein bod yn parhau i ddwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif wrth sicrhau lles anifeiliaid ac rwy'n falch o allu gwneud hyn yn rheolaidd.
"Pob lwc i bawb ym mis Awst pan gyhoeddir yr enillwyr!"
DIWEDD