Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy is concerned that the Welsh Government plans to give Cardiff Airport a further £200m in subsidies.
Over the next decade, the £200m non-repayable funding is aimed to help back projects and drive growth at the airport. It will be also be used to attract new airlines and routes in order to expand passenger numbers.
The subsidy support up to 2035 would take the Welsh Government's funding commitment since it acquired the airport back in 2013 to nearly £400m.
This all comes as the figures from 2023 show that there was a 2.4% decline compared to 2022 in passenger numbers. Additionally, there were 16,000 flights in and out of Cardiff International airport in 2023, a 15.6% decrease compared to 2022.
Commenting on the news Janet said:
“I have been watching the Welsh Government’s latest pet project closely. At a time when families were struggling and the Welsh NHS is on its knees I was severely concerned when I learned that the Welsh Government announced they were purchasing Cardiff Airport.
“My main concern, aside from the £52m price tag in 2013, is that this endeavour would become a bottomless pit for taxpayers. Indeed, we have already seen with Transport for Wales that reduced passenger revenue compared to projections has caused a huge financial blackhole in its budget. In TfW’s case a hole of £100m.
“So seeing that Cardiff is the only top 30 UK airport experiencing declining passenger numbers deeply concerns me, as it suggests we might be heading in the same direction.
“Welsh Government have already spent an eyewatering £200m on this pet project, but now they want to spend another £200m. Such a shame when this money is desperately needed for our NHS, schools and local services.
“We must not let the same happen here. I will therefore be speaking with the Chief Executive of Cardiff Airport to discuss what plans there are for expansion and whether these are viable and sustainable.
“Ultimately, this airport is of zero benefit to North Wales. This is yet another example of the North – South divide and Welsh Labour wasting tax payers money in the region south of the M4”.
ENDS
Mae Janet Finch-Saunders, Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, yn poeni fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi £200m yn rhagor i Faes Awyr Caerdydd ar ffurf cymorthdaliadau.
Dros y degawd nesaf, nod y £200m o gyllid, na fydd rhaid ei ad-dalu, yw helpu i gefnogi prosiectau a sbarduno twf yn y maes awyr. Bydd hefyd yn cael ei ddefnyddio i ddenu cwmnïau hedfan a chyrchfannau newydd er mwyn ehangu nifer y teithwyr.
Byddai'r cymhorthdal hyd at 2035 yn golygu bod Llywodraeth wedi ymrwymo bron i £400m ers iddi gaffael y maes awyr yn ôl yn 2013.
Daw hyn i gyd wrth i ffigurau 2023 ddangos gostyngiad o 2.4% o'i gymharu â 2022 yn nifer y teithwyr. Yn ogystal, roedd 16,000 o hediadau i mewn ac allan o faes awyr Rhyngwladol Caerdydd yn 2023, gostyngiad o 15.6% o'i gymharu â 2022.
Wrth sôn am y newyddion dywedodd Janet:
"Rydw i wedi bod yn cadw llygad barcud ar brosiect diweddaraf Llywodraeth. Ar adeg pan oedd teuluoedd yn ei chael hi'n anodd cael deupen llinyn ynghyd a GIG Cymru ar ei liniau, roeddwn yn bryderus iawn pan glywais fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn prynu Maes Awyr Caerdydd.
"Fy mhrif bryder, ar wahân i'r pris o £52m yn 2013, yw y byddai'r ymdrech hon yn dod yn bwll diwaelod i drethdalwyr. Yn wir, rydyn ni eisoes wedi gweld gyda Trafnidiaeth Cymru bod llai o refeniw teithwyr o'i gymharu â rhagamcanion wedi achosi twll du ariannol enfawr yn ei gyllideb. Yn achos TrC, twll gwerth £100m.
"Felly mae gweld mai Caerdydd yw'r unig faes awyr o’r 30 mwyaf yn y DU sy'n profi dirywiad yn nifer y teithwyr yn fy mhoeni'n fawr, gan ei fod yn awgrymu y gallen ni fod yn mynd i'r un cyfeiriad.
"Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwario’r swm dychrynllyd o £200m ar y prosiect hwn, ond nawr maen nhw am wario £200m arall. Mae hyn yn gymaint o gywilydd pan fo dirfawr angen yr arian hwn ar gyfer ein GIG, ein hysgolion a’n gwasanaethau lleol.
"Rhaid i ni beidio â gadael i'r un peth ddigwydd yma. Felly, byddaf yn siarad â Phrif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd i drafod pa gynlluniau sydd ar gyfer ehangu ac a yw'r rhain yn hyfyw ac yn gynaliadwy.
"Yn y pen draw, dyw'r maes awyr hwn ddim o unrhyw fudd i Ogledd Cymru. Dyma enghraifft arall eto o raniad Gogledd-De a Llafur Cymru yn gwastraffu arian trethdalwyr yn y rhanbarth i'r de o'r M4".
DIWEDD