Janet Finch-Saunders, Member of the Welsh Parliament for Aberconwy, was delighted to attend the Christians Against Poverty (CAP) Workshop on Friday at Llanfairfechan Hope Church.
The workshop provides essential support to individuals on lower incomes who are struggling to make ends meet. CAP offers invaluable guidance on budgeting, including advice on cost-effective supermarket choices and affordable brands, helping attendees manage their finances more effectively.
In addition to financial advice, the group also provides practical money-saving lessons, such as cooking on a budget, equipping people with essential life skills to ease financial pressures.
Commenting on the visit, Janet said:
“It was truly inspiring to see the fantastic work being carried out by Christians Against Poverty in Llanfairfechan.
“In these challenging times, many individuals and families face significant financial hardships, and the support provided by this group is invaluable.
“Their commitment to helping people navigate debt, budget effectively, and develop practical money-saving skills is commendable.
“I would encourage anyone who is struggling financially to reach out to organisations like CAP. Their compassionate and practical approach is making a real difference in the lives of many within our community.”
ENDS
Ddydd Gwener, roedd Janet Finch-Saunders, yr Aelod o’r Senedd dros Aberconwy, wrth ei bodd i fynychu Gweithdy Cristnogion yn Erbyn Tlodi yn Eglwys Gobaith Llanfairfechan.
Mae'r gweithdy'n darparu cymorth hanfodol i unigolion ar incwm is sy'n ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd. Mae Cristnogion yn Erbyn Tlodi yn cynnig arweiniad amhrisiadwy ar gyllidebu, gan gynnwys cyngor ar ddewisiadau archfarchnad cost-effeithiol a brandiau fforddiadwy, gan helpu'r rhai sy'n bresennol i reoli eu cyllid yn fwy effeithiol.
Yn ogystal â chyngor ariannol, mae'r grŵp hefyd yn darparu gwersi arbed arian ymarferol, fel coginio ar gyllideb, gan ddysgu sgiliau bywyd hanfodol i bobl er mwyn ysgafnhau’r pwysau ariannol.
Wrth sôn am yr ymweliad, dywedodd Janet:
"Roedd yn wirioneddol ysbrydoledig gweld y gwaith gwych sy'n cael ei wneud gan Gristnogion yn Erbyn Tlodi yn Llanfairfechan.
"Yn y cyfnod heriol hwn, mae llawer o unigolion a theuluoedd yn wynebu caledi ariannol sylweddol, ac mae'r gefnogaeth a ddarperir gan y grŵp hwn yn amhrisiadwy.
"Mae eu hymrwymiad i helpu pobl i lywio dyled, cyllidebu'n effeithiol, a datblygu sgiliau ymarferol arbed arian i’w ganmol.
"Byddwn yn annog unrhyw un sy'n ei chael hi'n anodd yn ariannol i estyn allan at sefydliadau fel Cristnogion yn Erbyn Tlodi. Mae eu hagwedd dosturiol ac ymarferol yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau llawer o bobl yn ein cymuned."
DIWEDD