Bydd gwasanaeth bws yn dychwelyd i orsaf drenau Cyffordd Llandudno.
Dechreuodd y broblem pan benderfynodd Arriva Buses Wales stopio’r bws rhif 13 rhag defnyddio’r safle bws ar dir yr orsaf. Ar ôl clywed y rhesymau am hyn, mae Janet Finch-Saunders, Aelod Cynulliad Aberconwy, wedi gweithio gyda Trafnidiaeth Cymru i ddatrys y sefyllfa - sy’n golygu y bydd gwasanaeth bws 13 Arriva yn galw heibio gorsaf drenau’r Gyffordd o 12 Ionawr 2020 ymlaen.
Meddai Janet:
“Ers i wasanaeth bws rhif 13 gael ei ddargyfeirio o orsaf drenau Cyffordd Llandudno yn gynharach eleni, cefais domen o gwynion am golli’r gwasanaeth hwn.
“Daeth i’r amlwg mai cynllun maes parcio’r orsaf oedd gwraidd y broblem.
“Rydw i wedi sicrhau ymrwymiad gan Trafnidiaeth Cymru y bydd y lleoedd parcio’n cael eu haddasu erbyn canol mis Hydref.
“Unwaith bydd y gwaith wedi’i orffen, bydd bws 13 yn galw heibio’r orsaf eto, ac mae’n braf cyhoeddi fod Arriva yn ystyried dargyfeirio hyd yn oed mwy o wasanaethau i’r safle hwn.
“Mae angen denu mwy o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, felly rwy’n falch y bydd fy ngwaith yn arwain at gysylltiadau gwell rhwng bysiau a threnau”.
DIWEDD
Dogfennau:
Llythyr gan Trafnidiaeth Cymru
Ymateb Arriva
Nodiadau: