Having recently visited the British Heart Foundation (BHF) Furniture & Electrical store in Llandudno, Janet Finch-Saunders MS has spoken of her sincere appreciation of the invaluable work undertaken by the local team and BHF across the nation.
BHF want better heart and circulatory health for everyone in Wales and work in partnership with key decision makers, individuals, and organisations to ensure services for heart patients across Wales are available and accessible.
Following the visit to the local store which plays an important role in raising awareness and money for BHF, Janet said:
“340,000 people in Wales are living with the daily burden of heart and circulatory disease.
“British Heart Foundation are playing a leading role in the campaign to improve heart and circulatory health for everyone in Wales. In fact, their incredible work is seeing an investment of almost £4m in life saving research at universities across Wales.
“Each day in the UK, 12 babies are diagnosed with a heart defect that occurs as the baby develops in the womb. I am proud that it is researchers in Wales who are assisting the BHF in ensuring that the best possible care is provided to mothers and babies.
“The range of support and research undertaken by BHF is impressive, but they could not do any of it without support from the community. So, if you are shopping in Llandudno, pleased call in to the BHF Furniture & Electrical store”.
ENDS
Ar ôl ymweld â siop Dodrefn ac Offer Trydanol y British Heart Foundation yn Llandudno’n ddiweddar, mae Janet Finch-Saunders AS wedi siarad am ei gwerthfawrogiad diffuant o waith amhrisiadwy'r tîm lleol a’r British Heart Foundation ledled y wlad.
Mae’r British Heart Foundation am weld gwell iechyd calon ac iechyd cylchredol i bawb yng Nghymru ac mae’r sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth â’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, unigolion a sefydliadau allweddol i sicrhau bod gwasanaethau ar gyfer cleifion y galon ar gael ac yn hygyrch ledled Cymru.
Yn dilyn yr ymweliad â’r siop leol sy’n gwneud cyfraniad pwysig o ran codi ymwybyddiaeth ac arian i’r British Heart Foundation, dywedodd Janet:
“Mae 340,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda’r baich dyddiol o glefyd y galon a chlefyd cylchredol.
“Mae gan y British Heart Foundation rôl flaenllaw wrth ymgyrchu i wella iechyd y galon ac iechyd cylchredol i bawb yng Nghymru. Yn wir, mae eu gwaith anhygoel yn gweld buddsoddiad o bron i £4 miliwn mewn ymchwil achub bywyd mewn prifysgolion ledled Cymru.
“Bob diwrnod yn y DU, mae 12 o fabanod yn cael diagnosis o nam ar y galon sy’n digwydd wrth i’r baban ddatblygu yn y groth. Rwy’n falch mai ymchwilwyr yng Nghymru sy’n cynorthwyo’r British Heart Foundation wrth sicrhau bod y gofal gorau posibl yn cael ei ddarparu i famau a babanod.
“Mae ystod y gefnogaeth a’r ymchwil sy’n cael ei wneud gan y British Heart Foundation yn drawiadol iawn, ond ni fyddent yn gallu gwneud dim heb gefnogaeth y gymuned. Felly, os ydych chi’n siopa yn Llandudno, galwch heibio siop Dodrefn ac Offer Trydanol y British Heart Foundation”.
DIWEDD